Pan fydd plentyn mewn profedigaeth, ni allwn ac ni ddylem gymryd eu galar i ffwrdd oddi wrthynt. Drwy eu helpu i’w archwilio a’i rannu, gallwn eu helpu i fyw drwyddo a thu hwnt.

Yn y DU mae 4,500 o fabanod yn marw bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu bod angen i lawer o deuluoedd esbonio i frodyr a chwiorydd o bob oed na fydd eu brawd neu chwaer fach yn dod adref. Efallai nad yw plant ifanc yn deall y cysyniad o farwolaeth eto, ond bydd y galar a brofir gan rieni a pherthnasau eraill wrth iddynt addasu i farwolaeth babi yn effeithio ar eu bywydau ymarferol ac emosiynol.

Nod y dudalen hon yw cynnig rhai adnoddau defnyddiol i rieni i ddechrau sgyrsiau gyda brodyr a chwiorydd o bob oed, yn ogystal ag awgrymu gweithgareddau i blant gofio eu brawd neu chwaer fach a mynegi sut maen nhw'n teimlo.

Photo of 2 bereaved siblings lighting candles in memory, young children

Mae adnoddau ar gyfer athrawon ac ysgolion wedi'u cynnwys i helpu i gefnogi brodyr a chwiorydd babanod sydd wedi marw, yn yr ysgol a lleoliadau eraill.

 

I rieni

Yn aml, mae brodyr a chwiorydd yn ifanc iawn pan fydd eu brawd neu chwaer fach yn marw, neu efallai eu bod wedi cael eu geni i alar hanesyddol i frawd neu chwaer a fu farw cyn iddynt gael eu geni. 

Pan fydd rhieni'n ymdopi â'u galar eu hunain, gall fod yn anodd gwybod faint i'w rannu â brodyr a chwiorydd iau. Gall helpu i siarad â phlant ifanc pan fyddwch chi'n cael 'diwrnod da' a theimlo eich bod chi'n gallu ateb cwestiynau plentyn a gofyn sut maen nhw'n teimlo.

Esbonio marw-enedigaeth, marwolaeth newydd-anedig neu fathau eraill o golled

Mae plant yn naturiol chwilfrydig ac efallai y bydd ganddyn nhw lawer o gwestiynau am sut y bu farw eu brawd neu chwaer, beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ac i ble maen nhw wedi mynd. Efallai y bydd angen dweud wrthynt beth ddigwyddodd nifer o weithiau nes bod y wybodaeth yn gwneud synnwyr iddynt. Gall cael ffyrdd syml o esbonio hyn iddynt helpu pan fydd rhieni’n galaru:

‘Roedd y babi’n sâl, felly bu farw ym môl mami’ (marw-enedigaeth)

'Roedd y meddygon yn yr ysbyty yn gofalu am dy frawd yn dda iawn ac roedd wrth ei fodd gyda dy ymweliad, ond ar ôl bod yn sâl am hir/byr bu farw’ (marwolaeth babanod newydd-anedig)

'Ni thyfodd corff dy chwaer fach yn iawn, felly bu farw' (terfyniad oherwydd anomaledd y ffetws)

‘Nid ydym yn siŵr pam y bu'r babi farw, ond  gwyddom na wnes di unrhyw beth o’i le a dy fod yn ei garu’n fawr iawn’ (marwolaeth sydyn babanod)

 

Dyma stori a ysgrifennwyd gan Sam Kitson ar gyfer Sands. Mae’n esbonio marwolaeth babi a gellir ei archebu o siop Sands (https://shop-sands.org.uk/en/cynhyrchion/llyfrau)

 

Mae ein Llyfr Cymorth Profedigaeth yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer siarad â phlant o wahanol oedrannau.

 

Helpu eich plentyn

Gall esbonio marwolaeth babi i blentyn deimlo’n anodd iawn, gan eich bod chi’n brwydro gyda’ch galar eich hun ac mae’n bwysig bod yn garedig â chi’ch hun os ydych chi’n galaru hefyd. Mae’r canllaw isod yn esbonio sut mae plant yn deall marwolaeth wrth iddynt dyfu, i’ch helpu i siarad â nhw am farwolaeth babi yn y teulu.

 

Dealltwriaeth plant o farwolaeth

0-2 Oed

Gall babanod a phlant bach ymateb i alar oherwydd y newidiadau yn eu hamgylchedd. Nid oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth ond efallai y byddant yn teimlo'r newid mewn eraill, yn enwedig eu prif ofalwr/rhieni. Gydag ychydig neu ddim iaith i fynegi eu hunain drwyddi, gallant lynu mwy at rieni /gofalwyr a gallant ddangos eu hansicrwydd trwy grio. Mae’n bosibl y bydd tarfu ar eu cwsg a’u bwydo, felly gall ymlacio arferion a chanolbwyntio ar ymlyniad fod yn fuddiol.

2-5 Oed

Mae dealltwriaeth yn cynyddu yn yr oedran hwn ac felly bydd plentyn eisiau gwneud synnwyr o bethau, fel arfer trwy ofyn llawer o gwestiynau. Mae pryder yn gyffredin, a gall problemau gwahanu godi. Mae plant yr oedran hwn yn defnyddio’r geiriau ‘byw’ a ‘marw’ ond nid ydynt yn deall bod marwolaeth yn barhaol, felly mae plant yn aml yn disgwyl i’r babi ddychwelyd, sy’n golygu y bydd angen i ofalwyr esbonio pethau’n amyneddgar, o bosibl fwy nag unwaith. Efallai y bydd angen sicrwydd arnynt nad oes poen mewn marwolaeth a gallant actio marwolaeth wrth chwarae rôl.

5-11 Oed

Mae plant o'r oedran hwn yn datblygu dealltwriaeth yn raddol bod marwolaeth yn barhaol ac na fydd babi yn dod yn ôl. Efallai y bydd yn rhaid i blant a gafodd brofedigaeth yn iau ail-brosesu'r golled honno nawr bod eu dealltwriaeth wedi datblygu. Mae plant yn dueddol o gysylltu digwyddiadau â’u hunain yn yr oedran hwn, felly gallant deimlo mai nhw oedd ar fai rywsut, gan arwain at euogrwydd a phryder. Gallant ddod yn bryderus am eu hiechyd a'u marwolaethau eu hunain ac eraill. Mae plant yr oedran hwn angen atebion syml a gonest, sicrwydd a chyfleoedd i fynegi sut maent yn teimlo.

11+ Oed/Arddegau

Mae llencyndod yn gyfnod o newid, wrth i blant yr oedran hwn ddod yn fwy annibynnol. Maent yn aml yn symud o gefnogaeth teulu i gefnogaeth cyfoedion, gan siarad mwy â ffrindiau a phobl o'r un oedran. Mae angen i bobl ifanc yn eu harddegau deimlo eu bod yn ffitio i mewn a gall profedigaeth achosi rhywfaint o gywilydd ac unigedd. Bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn deall marwolaeth, ond efallai y byddant yn herio safbwyntiau a chredoau pobl eraill am yr hyn sy'n digwydd wedyn. Wrth iddynt ddod yn ymwybodol o farwolaeth a'r cylch bywyd, efallai y byddant yn ceisio ennill rheolaeth trwy fynd yn encilgar ac osgoi cymryd unrhyw risgiau. Gall eraill geisio ymgymryd â rôl mwy oedolyn a cheisio gofalu am y rhai sy'n galaru. Mae plant yr oedran hwn angen ffiniau, sicrwydd ac amser i archwilio eu teimladau a'u safbwyntiau eu hunain.

Plant ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth (ASA)

Efallai na fydd plant ag ASA yn ymateb i farwolaeth yn yr un ffordd ag y mae plant eraill yn ei wneud ond nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn galaru. Gall plant ag ASA gael trafferth prosesu eu syniadau eu hunain am farwolaeth. Efallai y byddan nhw’n cael trafferth gweld pethau o safbwynt person arall, gan ei gwneud hi’n anodd deall ymddygiadau neu deimladau a pheidio â sylweddoli y gellir eu helpu. Efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu eu teimladau eu hunain a dod o hyd i'r geiriau cywir, felly mae angen iaith glir a syml. Mae'n bwysig cynnal trefn arferol cymaint â phosibl, gan esbonio newidiadau ymlaen llaw. Mae defnyddio lluniau, ffotograffau a chymhorthion gweledol yn gallu bod o gymorth. Rhowch gyfle i’r plant archwilio a mynegi eu teimladau mewn ffordd sy’n gyfforddus iddyn nhw.

Plant ag Anghenion Addysgol Arbennig

Fel gyda phlant ag ASA, mae'n bwysig bod yn onest gyda phlant, gan esbonio marwolaeth iddynt mewn termau clir a syml yn unol â'u hoedran datblygiadol. Efallai y bydd angen mwy o amser arnynt i brosesu a deall y wybodaeth ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt i fynegi eu hemosiynau. Yn yr un modd â phlant iau, efallai na fyddant yn deall terfynoldeb marwolaeth ond byddant yn dal i deimlo emosiynau colled a hiraeth am bethau fel yr oeddent. Gallwch ddefnyddio gwrthrychau, cymhorthion gweledol a lluniau i helpu, gan eu hannog i gymryd rhan a thynnu lluniau neu ddewis delweddau sy’n cynrychioli sut maen nhw’n teimlo.

Mynegi emosiynau

Gall plant ddangos tristwch neu bryder trwy eu geiriau neu eu gweithredoedd. Gall eu hymddygiad newid fel rhan o’u galar, felly mae’n bwysig cynnig cyfleoedd i fynegi sut maen nhw’n teimlo.

Gall gweithgareddau sy'n caniatáu mynegiant rhydd iddynt helpu i ddechrau sgwrs, ond cofiwch fod rhychwant sylw plentyn yn fyrrach ac efallai y bydd yn symud yn gyflym rhwng pynciau. Mae cael eich arwain gan angen eich plentyn i ofyn am farwolaeth ei frawd neu chwaer a'i ddymuniad i chwarae yn iawn, a bydd yn dangos iddynt eich bod ar gael i wrando arnynt pan fyddant yn teimlo'n barod i siarad.

 

Ar gyfer athrawon ac ysgolion

Rheoli galar

Pan fydd brawd neu chwaer mewn profedigaeth yn drist, mae yna weithgareddau a all eu helpu i wneud synnwyr o'u tristwch a chreu gofod i siarad. Gall sgyrsiau rheolaidd gyda mentor, cwnselydd ysgol neu staff ymroddedig eraill ddangos bod ganddynt ganiatâd i deimlo fel y maent ac nad oes angen eu llethu rhag ofn peri gofid i'w rhieni sy'n galaru. Efallai na fyddant yn teimlo'n drist, ond efallai y byddant yn ddig wrth eu rhieni neu'r babi a fu farw, felly mae'n bwysig cynnig lle anfeirniadol iddynt.

Cyfathrebu

Mae’n bosibl y bydd rhieni y mae eu babi wedi marw angen yr ysgol i estyn allan a chynnig cymorth oherwydd efallai y byddant yn teimlo na allant ofyn am help ar gyfer eu plentyn sydd wedi goroesi.

Efallai eu bod yn cael eu llethu gan ymarferoldeb marwolaeth eu babi neu efallai na fyddant yn gweithredu y tu hwnt i ddarparu ar gyfer anghenion sylfaenol eu plentyn.

Efallai y byddant yn croesawu amser eu plentyn yn yr ysgol, gan y bydd yn rhoi ymdeimlad o normalrwydd ac yn galluogi eraill i gefnogi eu plentyn. Bydd gofyn iddynt a rhoi adborth iddynt am sut mae eu plentyn oedran ysgol yn ymdopi yn ffordd dda o gefnogi’r teulu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Dychwelyd i'r ysgol

Mae'n bosibl y bydd rhieni'n dymuno i gyd-ddisgyblion eu plentyn a theuluoedd ysgol eraill gael gwybod beth sydd wedi digwydd.

Bydd cymryd eich arweiniad gan rieni yn dangos iddynt eich bod yn parchu eu preifatrwydd ond gall hefyd helpu eu plentyn i gael ei groesawu a’i gefnogi gan gymuned yr ysgol.

Bydd cyswllt enwebedig ar gyfer y teulu hwnnw yn osgoi’r angen i rieni adrodd eu stori dro ar ôl tro a bydd yn adnodd gwerthfawr pe bai’r teulu angen gwybodaeth am sut mae eu plentyn ysgol yn dod ymlaen.

Sut i gyfathrebu â chymuned yr ysgol/Colled beichiogrwydd athrawon/colled beichiogrwydd rhiant

Mae’n bosibl y byddai’n well gan deuluoedd sydd wedi rhoi caniatâd i’w sefyllfa gael ei rhannu â chymuned yr ysgol beidio â chael eu cynnwys mewn negeseuon ar restrau post yr ysgol neu ddolenni cyfryngau cymdeithasol am eu colled.

Yn yr un modd, efallai y bydd angen ymdrin â chyfathrebu mewnol yn sensitif rhag ofn y byddant yn effeithio ar staff sydd eu hunain yn feichiog neu sydd wedi dioddef colled yn flaenorol. Os yw colli babi wedi effeithio ar eich staff, ewch i https://sands.org.uk/hyfforddiantynygweithle.

Os nad ydych yn siŵr a yw rhiant neu aelod o staff yn dymuno i newyddion am eu colled gael ei rannu, dylech bob amser gael sgwrs gyda nhw lle rydych chi'n cynnig opsiynau a blaenoriaethu eu hanghenion unigol.

Meithrin Gwydnwch mewn Plant sydd wedi cael Profedigaeth

Mae meithrin gwytnwch yn arbennig o bwysig i blant sydd wedi cael profedigaeth. Bydd dangos iddyn nhw ei bod hi'n iawn i deimlo'n drist ac y bydd y teimladau hyn yn pasio yn mynd â rhywfaint o'u pryder i ffwrdd. Gall cymunedau ysgol eu helpu i ymdopi â theimladau anodd, trwy eu derbyn a dangos eu cyflawniadau iddynt mewn ffyrdd bach ond calonogol.

Dyma rai ffyrdd da o feithrin gwydnwch mewn plant:

  • Sicrwydd: Dywedwch wrthyn nhw bob amser eu bod yn cael eu caru ac nad ydynt ar fai am y golled. Dywedwch wrthyn nhw pwy sydd yna i ofalu amdanyn nhw gan gynnwys rhieni, ffrindiau ac athrawon.
  • Trefn arferol: Mae diwrnod neu wythnos ragweladwy yn gwneud i blant deimlo'n saff a diogel. Cynhwyswch elfennau cadarnhaol o'u trefn arferol yn ystod ychydig ddyddiau ac wythnosau cyntaf yn dilyn y golled.
  • Anogwch nhw i rannu: Rhowch wybod iddyn nhw fod beth bynnag maen nhw'n ei deimlo yn iawn. Rhowch gyfleoedd iddyn nhw fynegi eu hunain mewn ffordd sy'n gyfforddus iddyn nhw, boed yn ddawnsio, yn siarad, yn tynnu lluniau, yn ysgrifennu ac ati. Helpwch nhw i fynegi unrhyw ddicter mewn ffordd ddiogel. Rhowch enghraifft trwy rannu eich teimladau eich hun a sut maen nhw'n newid dros amser.
  • Eglurder: Atebwch gwestiynau’n glir, yn hyderus, yn onest gan ddefnyddio iaith sy’n briodol i’w hoedran.
  • Cynnwys: Bydd caniatáu iddynt gael mewnbwn ynghylch trefniadau eu brodyr a chwiorydd, gofod coffa neu bethau arbennig y maent yn eu dewis i’w cofio yn eu helpu i deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth.
  • Cefnogaeth: Cynhwyswch unrhyw un sy'n cefnogi eich plentyn gan gynnwys ysgolion, clybiau ac ati. Siaradwch â nhw a gweithiwch gyda'ch gilydd i weld sut y gallant helpu i gefnogi'ch plentyn.
  • Canmoliaeth: Anogwch a chanmolwch eu cerrig milltir a’u cyflawniadau, y pethau anodd hynny y maent yn eu rheoli a’u goresgyn.
  • Deall: Deall ei bod hi’n iawn i blant chwerthin, chwarae a chael hwyl yn ogystal ag amser i fod yn drist ac i alaru. Gall plant gael trafferth ar ôl colled gyda phethau fel cyfeillgarwch, newid a heriau y maent fel arfer yn eu cymryd yn eu camau breision. Deall, ond hefyd cadw ffiniau o amgylch ymddygiad fel y gall plant deimlo'n ddiogel.

Llinell Gymorth Sands - 0808 164 3332 helpline@sands.org.uk

 

Animeiddiad llyfr stori In the Stars

Rydym mor falch o allu rhannu’r animeiddiad hardd hwn sydd wir yn cyfleu’r stori hon am ddau blentyn ifanc yn siarad am yr hyn a allai fod wedi digwydd i fabi o’r enw Kitty.

Mae In the Stars yn stori sydd wedi'i hanelu at blant iau i helpu i archwilio materion a chwestiynau pan fydd babi'n marw. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i frodyr a chwiorydd, cefndryd a chyfnitherod a ffrindiau.

Gellir archebu copi caled o'r llyfr o'n Siop Sands. 

 

Llyfrau Gwaith Plant

Gallwch chi helpu'ch plentyn i rannu sut mae'n teimlo trwy'r llyfrau gwaith hardd hyn sydd wedi'u creu'n arbennig gan Sands.

Exit Site